Aethom am fwyd fel teulu efo'r wraig a'i rhieni ar ol bod yn cerdded o gwmpas bae Cemlyn a Ynys y Fydlyn (hefyd werth neud!), roedd yn saff iawn i ddweud y bod ein boliau ac yn barod i fwtya; roddym yn ffodus ein bod wedi dod i'r lle iawn.
Er oddyn ychydig o funudau yn hwyr yr oedd yr staff yno yn glen iawn efo ni wrth gadw pellter cymdeithasol. Roeddynt yn ffodus y fod yno dal rhywfaint or arbennigion ar ol ar y fwydlen felly cawsaf yr pryd dwethaf o tacos i gychwyn tra gordrodd yr lleill yr croquettes, calamair a'r adenydd cyw iar. Fe dewisiodd tri ohonyn yr stec fel prif gwrs ac draenog mor fel yr dewis arall. Roedd y cwbl yn hyfryd a diflannodd reit handi efo botel o goch!
Mae'n anodd camnol y lle ma heb frolio fel hyn ond y math yno o pryd oedd o! Wedyn daeth yr bwydlen pwdin, sorbet oren coch gyda casgliad o flasus citrws i un ochr y bwrdd a pwdin toffi ochr arall. Dal yr bwyty safonnol gyad'r gwerth pres gorau ar yr ynys hyd y gwelaf, a ffasiwn ddewis hefyd.
Diolch i Neil a pawb yn y gegin a Mel ar tim gweini!
Eier eller administrerer du dette stedet? Gjør krav på oppføringen din gratis for å svare på anmeldelser, oppdatere profilen din og mye mer.